
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi'r amserlen sydd ar ddod ar gyfer ein sesiynau Cymedroli Darparwyr Padlo'n fwy Diogel. Mae'r sesiynau hyn yn hanfodol i bob darparwr sy'n dymuno parhau i gyflwyno'r cwrs Padlo'n fwy Diogel. Mae ein cofnodion yn dangos eich bod wedi dod yn Ddarparwr Padlo'n fwy Diogel yn 2022, os hoffech barhau i gynnig y cwrs gwerthfawr hwn, bydd angen i chi fynychu Cymedroli yn 2025.

Yn dilyn dedfrydu perchennog busnes padlfyrddio i 10 mlynedd a 6 mis am ddynladdiad pedwar o bobl drwy esgeulustod difrifol, mae'n hanfodol ein bod yn atgoffa pawb o'r gwersi a ddysgwyd o'r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad trasig ac osgoadwy hwn a'r cyfrifoldebau sydd gennym ni i gyd wrth ddefnyddio ac arwain eraill yn ystod sesiynau padlo.
CYSYLLTWCH Â'R TÎM CYFRYNGAU
Os oes gennych chi stori a fyddai o ddiddordeb i dîm Paddle Cymru, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar-lein isod neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'n ffrydiau cymdeithasol.
ARWYDDO I GYLCHGRAWN CEUFAD
Ceufad yw ein cylchgrawn chwarterol, sy'n rhoi sylw i bopeth sy'n bwysig ym myd chwaraeon padlo yng Nghymru.