Mae Paddle Cymru yn chwilio am Gadeirydd Annibynnol i arwain ein Bwrdd a helpu i yrru twf a datblygiad parhaus chwaraeon padlo ledled Cymru.
Dyma gyfle i ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i gefnogi cymuned chwaraeon lewyrchus, dylanwadu ar benderfyniadau strategol a helpu i ddarparu buddion parhaol i aelodau, clybiau a gwirfoddolwyr ledled Cymru.
Gan weithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredol a'r Bwrdd Cyfarwyddwyr, byddwch yn darparu arweinyddiaeth, yn hyrwyddo trefn lywodraethol da ac yn sicrhau bod Paddle Cymru yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i gyflawni ei uchelgeisiau.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unigolion a all ddod â safbwyntiau ffres o'r tu allan i'r gamp. Nid oes angen profiad mewn chwaraeon padlo.
Mae'r penodiad ar gyfer cyfnod cychwynnol o bedair blynedd.
Swydd wirfoddol yw hon, ac ad-delir treuliau rhesymol.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Megan Hamer-Evans yn Megan.Hamer-Evans@PaddleCymru.org.uk