PREIFATRWYDD A DIOGELU DATA

Mae Paddle Cymru yn cymryd preifatrwydd unigolion a diogelu data o ddifrif ac rydym am sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu amdanoch yn ddiogel.


Datganiad GwefanDatganiad Gwefan

POLISI PREIFATRWYDD GWEFAN

Mae Paddle Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a datblygu technoleg sy'n rhoi'r profiad ar-lein mwyaf pwerus a diogel i chi. Mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefan Paddle Cymru ac yn rheoli casglu a defnyddio data. Drwy ddefnyddio gwefan Paddle Cymru, rydych chi'n cydsynio i'r arferion data a ddisgrifir yn y datganiad hwn.

Noder: Mae'r hysbysiad preifatrwydd isod yn ymwneud â defnyddio gwefan Paddle Cymru. Am Hysbysiad Preifatrwydd llawn y sefydliad mae dolen islaw'r testun hwn.


CASGLU EICH GWYBODAETH BERSONOL

Mae Paddle Cymru yn casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy, fel eich cyfeiriad e-bost, enw, cyfeiriad cartref neu waith neu rif ffôn. Mae Paddle Cymru hefyd yn casglu gwybodaeth ddemograffig ddienw, nad yw'n unigryw i chi, fel eich cod post, oedran, rhyw, dewisiadau, diddordebau a ffefrynnau. Mae gwybodaeth hefyd am galedwedd a meddalwedd eich cyfrifiadur sy'n cael ei chasglu'n awtomatig gan Paddle Cymru. Gall y wybodaeth hon gynnwys: eich cyfeiriad IP, math o borwr, enwau parth, amseroedd mynediad a chyfeiriadau gwefannau cyfeirio. Defnyddir y wybodaeth hon gan Paddle Cymru ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth, i gynnal ansawdd y gwasanaeth, ac i ddarparu ystadegau cyffredinol ynghylch defnydd o wefan Paddle Cymru. Cofiwch, os byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy neu ddata sensitif yn uniongyrchol drwy fyrddau negeseuon cyhoeddus Paddle Cymru, y gall eraill gasglu a defnyddio'r wybodaeth hon.

Noder: Nid yw Paddle Cymru yn darllen unrhyw un o'ch cyfathrebiadau preifat ar-lein. Mae Paddle Cymru yn eich annog i adolygu datganiadau preifatrwydd y gwefannau rydych chi'n dewis cysylltu â nhw o Paddle Cymru fel y gallwch chi ddeall sut mae'r gwefannau hynny'n casglu, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth. Nid yw Paddle Cymru yn gyfrifol am y datganiadau preifatrwydd na chynnwys arall ar wefannau y tu allan i Paddle Cymru a theulu o wefannau Paddle Cymru.


DEFNYDD O’CH GWYBODAETH BERSONOL

Mae Paddle Cymru yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i weithredu gwefan Paddle Cymru a darparu'r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt. Mae Paddle Cymru hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol adnabyddadwy i roi gwybod i chi am gynhyrchion neu wasanaethau eraill sydd ar gael gan Paddle Cymru a'i gwmnïau cysylltiedig. Gall Paddle Cymru hefyd gysylltu â chi trwy arolygon i gynnal ymchwil am eich barn ar wasanaethau cyfredol neu ar wasanaethau newydd posibl a allai gael eu cynnig.

Nid yw Paddle Cymru yn gwerthu, rhentu na phrydlesu ei restrau cwsmeriaid i drydydd parti. Gall Paddle Cymru, o bryd i'w gilydd, gysylltu â chi ar ran partneriaid busnes allanol ynglŷn â chynnig penodol a allai fod o ddiddordeb i chi. Yn yr achosion hynny, ni chaiff eich gwybodaeth bersonol adnabyddadwy unigryw (e-bost, enw, cyfeiriad, rhif ffôn) ei throsglwyddo i'r trydydd parti.


Nid yw Paddle Cymru yn defnyddio nac yn datgelu gwybodaeth bersonol sensitif, fel hil, crefydd, neu gysylltiadau gwleidyddol, heb eich caniatâd penodol. Mae Paddle Cymru yn cadw golwg ar y gwefannau a'r tudalennau y mae ein cwsmeriaid yn ymweld â nhw o fewn Paddle Cymru, ermwyn pennu pa wasanaethau Paddle Cymru yw'r rhai mwyaf poblogaidd. Defnyddir y data hwn i ddarparu cynnwys a hysbysebu wedi'u teilwra o fewn Paddle Cymru i gwsmeriaid y mae eu hymddygiad yn dangos eu bod â diddordeb mewn maes pwnc penodol. Bydd gwefannau Paddle Cymru yn datgelu eich gwybodaeth bersonol, heb rybudd, dim ond os yw'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol neu yn y gred ddidwyll bod angen gweithred o'r fath i: (a) gydymffurfio â gorchmynion y gyfraith neu gydymffurfio â phroses gyfreithiol a weinir ar Paddle Cymru neu'r wefan; (b) amddiffyn hawliau neu eiddo Paddle Cymru; a, (c) gweithredu o dan amgylchiadau brys i amddiffyn diogelwch personol defnyddwyr Paddle Cymru, neu'r cyhoedd.


DEFNYDD O GWCIS

Mae gwefan Paddle Cymru yn defnyddio "cwcis" i'ch helpu i bersonoli eich profiad ar-lein. Ffeil destun yw cwci sy'n cael ei gosod ar eich disg galed gan weinydd tudalen We. Ni ellir defnyddio cwcis i redeg rhaglenni na chyflwyno firysau i'ch cyfrifiadur. Mae cwcis wedi'u neilltuo'n unigryw i chi, a dim ond gweinydd gwe yn y parth a roddodd y cwci i chi all eu darllen.


Un o brif ddibenion cwcis yw darparu nodwedd gyfleustra i arbed amser i chi. Pwrpas cwci yw dweud wrth y gweinydd Gwe eich bod wedi dychwelyd i dudalen benodol. Mae cwci yn helpu Paddle Cymru i gofio eich gwybodaeth benodol ar ymweliadau dilynol. Mae hyn yn symleiddio'r broses o gofnodi eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r un wefan Paddle Cymru, gellir adfer y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn flaenorol, fel y gallwch chi ddefnyddio nodweddion Paddle Cymru a addaswyd gennych chi yn hawdd.

Mae gennych y gallu i dderbyn neu wrthod cwcis. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiadau eich porwr i wrthod cwcis os yw'n well gennych.


DIOGELWCH EICH GWYBODAETH BERSONOL

Mae Paddle Cymru yn diogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad, defnydd neu ddatgeliad heb awdurdod. Mae Paddle Cymru yn diogelu'r wybodaeth bersonol adnabyddadwy a ddarparwch ar weinyddion cyfrifiadurol mewn amgylchedd rheoledig, diogel, wedi'i amddiffyn rhag mynediad, defnydd neu ddatgeliad heb awdurdod.


NEWIDIADAU I'R DATGANIAD HWN

Bydd Paddle Cymru yn diweddaru'r Datganiad Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd i adlewyrchu adborth y cwmni a chwsmeriaid. Mae Paddle Cymru yn eich annog i adolygu'r Datganiad hwn o bryd i'w gilydd i gael gwybod sut mae Paddle Cymru yn diogelu eich gwybodaeth.


GWYBODAETH GYSYLLTU

Mae Paddle Cymru yn croesawu eich sylwadau ynghylch y Datganiad Preifatrwydd hwn. Os ydych chi'n credu nad yw Paddle Cymru wedi glynu wrth y Datganiad hwn, cysylltwch â Paddle Cymru. Byddwn yn gwneud ymdrechion masnachol rhesymol i benderfynu ar y broblem a'i datrys yn brydlon.

Gweler ein dogfen Hysbysiadau Preifatrwydd isod a Pholisïau eraill Paddle Cymru ynghylch diogelu data. Admin@paddlecymru.org.uk

Os bydd ymholiad neu gŵyn yn ymwneud â’r wybodaeth sydd gennym, e-bostiwch: admin@paddlecymru.org.uk


Os hoffech roi gwybod am dorri rheolau diogelu data gyda Paddle Cymru llenwch y ffurflen torri data ar-lein hon.