Mae Paddle Cymru yn fudiad aelodaeth ac mae gwirfoddoli wrth galon ein mudiad a gweithgaredd clwb, o wirfoddolwyr clwb i aelodau Bwrdd a phwyllgor ni allem ei wneud heb wirfoddolwyr.
Mae ein clybiau, fel y rhan fwyaf o glybiau chwaraeon cymunedol, yn dibynnu’n fawr ar wirfoddolwyr ac mae rolau ym mhob agwedd ar fywyd clwb a sawl ffordd y gallwch wirfoddoli, gall hyd yn oed ychydig o amser wneud gwahaniaeth mawr.
- Hyfforddi
- Arwain
- Pwyllgorau
- Digwyddiadau
- Club Administration and governance
- On land or on the water
Mae yna rolau ar gyfer pobl â sgiliau gwahanol ac ar draws pob ystod oedran. Heb wirfoddolwyr ni fyddai modd rhedeg Paddle Cymru, a gweithgareddau padlo.
Pam gwirfoddoli?
Mae gwirfoddoli o fudd i'r gwirfoddolwr gymaint â'r person sy'n derbyn y cymorth. Trwy wirfoddoli gallwch roi hwb i'ch lles eich hun, tra'n cysylltu â'r gymuned, a chefnogi pobl o bob cefndir wrth iddynt fynd ar y dŵr. Dyma ychydig o fanteision gwirfoddoli:
- Cyfarfod â phobl newydd a rhoi hwb i'ch sgiliau cymdeithasol.
- Cynyddu eich hunanhyder a hyder eraill.
- Hybu eich lles meddyliol a chorfforol.
- Helpu i greu cymuned gynhwysol a chroesawgar.
Cysylltwch â Paddle Cymru neu eich clwb Chwaraeon Padlo lleol i wirfoddoli.