Fel padlwyr, rydym yn cael ein denu at harddwch deinamig afonydd Cymru, o ddyfroedd gwyllt afon Dyfrdwy i ddarnau tawel afon Gwy. Ond gyda mwy o law a phatrymau tywydd anrhagweladwy, mae llifogydd a digwyddiadau dŵr uchel yn dod yn amlach ac yn fwy peryglus. P'un a ydych chi'n gaiaciwr dŵr gwyn profiadol neu'n BAD penwythnos selog, mae deall y risgiau a gwybod sut i ymateb yn hanfodol.
Pam Mae Dŵr Uchel yn Risg Ddifrifol
Gall afonydd dan ddŵr edrych yn dwyllodrus ddeniadol. Ond o dan yr wyneb mae llu o beryglon:
- Ceryntau cyflym a all drechu hyd yn oed padlwyr profiadol.
- Sioc dŵr oer, a all eich analluogi o fewn eiliadau.
- Malurion cudd, gan gynnwys canghennau, ffensys, a rhwystrau tanddwr.
- Halogyddion, fel carthffosiaeth, dŵr ffo amaethyddol, a gwastraff diwydiannol.
Gall hyd yn oed dŵr llifogydd hyd at y ffêr eich bwrw oddi ar eich traed. Ar afonydd, mae'r grym yn amlhau, gan wneud achub yn anodd a chynyddu'r risg o foddi.
Cyn i Chi Badlo: Gwiriwch yr Amodau
Gwiriwch lefelau afonydd a rhybuddion llifogydd bob amser cyn mynd allan:
- Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru
- https://flood-warning-information.service.gov.uk/river-and-sea-levels
- https://www.riverapp.net
- https://www.farsondigitalwatercams.com
- Map gorlif stormydd Dŵr Cymru ar gyfer y datganiadau diweddaraf.
- Os yw'r dŵr yn codi, wedi newid lliw, neu'n symud yn gyflymach nag arfer, peidiwch â phadlo.
Ar y Dŵr a'r Glannau: Diogelwch yn Gyntaf
Os ydych chi'n padlo yn ystod dŵr uchel, cymerwch ragofalon ychwanegol:
- Gwisgwch eich helmed a'ch cymorth arnofio bob amser wrth y lan, yn enwedig ger dŵr cyflym neu dir llithrig. Mae cwympiadau a llithro annisgwyl yn gyffredin yn ystod dŵr uchel, a gall helmed atal anaf difrifol.
- Osgowch badlo ar eich pen eich hun a rhowch wybod i rywun eich llwybr a'r amser dychwelyd disgwyliedig bob amser.
- Monitrwch amodau'r tywydd a'r dŵr yn barhaus, gan roi'r gorau i'r gweithgaredd os yw'r amodau'n gwaethygu.
Peryglon Iechyd a Hylendid
Yn aml, mae dŵr llifogydd yn cynnwys bacteria a llygryddion niweidiol. Er mwyn lleihau risgiau iechyd:
- Golchwch yn drylwyr ar ôl padlo.
- Gorchuddiwch unrhyw friwiau a defnyddiwch gadachau gwrthfacteria cyn bwyta.
Bioddiogelwch a Diogelu'r Amgylchedd
Gall dŵr uchel ledaenu rhywogaethau ymledol a niweidio cynefinoedd bregus. Dilynwch y protocol “Gwirio, Glanhau, Sychu” a defnyddiwch orsafoedd golchi lle bo modd.
Adrodd ac Adnoddau
- Cyfoeth Naturiol Cymru: 0300 065 3000
- Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd/Glandŵr Cymru: 0303 040 4040
- Paddle UK: Ar gyfer digwyddiadau mynediad a diogelwch
Nid anghyfleustra tymhorol yn unig yw llifogydd; mae'n her ddiogelwch gynyddol. Drwy aros yn wybodus, parchu'r dŵr, a phadlo'n gyfrifol, gallwn amddiffyn ein hunain, ein cymunedau, a'r afonydd rydyn ni'n eu caru.
CONTACT THE MEDIA TEAM
If you have a story that would be of interest to the Paddle Cymru team please get in touch using the online contact form linked below or get in contact using one of our social feeds.
SIGN UP TO CEUFAD MAGAZINE
Ceufad is our quarterly magazine, covering everything that's important in Welsh paddlesport.







