Gweithredu trapiau pysgod dros dro gan Gyfoeth Naturiol Cymru
Phil Stone • 9 April 2025

HOME / NEWS / Current Post

Mae Trapiau Sgriw Rotari (TiauSR) yn drapiau pysgod dros dro a ddefnyddir i ddal eogiaid ifanc a sewin ar eu taith i’r môr. Mae'r nodyn hwn yn hysbysu canŵ-wyr a defnyddwyr eraill yr afon lle a phryd y gallent ddod ar draws yr adeileddau hyn yn yr afon.

Yng Nghymru, gweithredir TiauSR ar ddau safle yn nalgylch Afon Dyfrdwy, Gogledd Cymru: Un ar y brif afon yn Worthenbury (SJ 41646 47503) a'r ail ar lednant - Afon Ceiriog - yn y Waun (SJ 27673 37007).

 

Daw'r trapiau hyn mewn meintiau amrywiol ond maent i gyd yn cynnwys drwm cylchdroi siâp côn wedi'i osod rhwng dau bontŵn arnofiol (gweler Ffigurau 1 a 2). Mae gweithrediad yn golygu lleoli pob trap ym mhrif gorff y llif lle mae'r drwm yn cael ei ostwng i'r dŵr nes ei fod wedi hanner ei foddi. Mae dŵr sy'n llifo trwy geg y drwm yn achosi iddo gylchdroi trwy weithredu ar lafn mewnol. Mae'r un llafn yn symud unrhyw bysgod sy'n mynd i mewn i'r drwm y tu ôl i'r TiauSR lle cânt eu dosbarthu i flwch dal i'w tagio a'u rhyddhau.

 

Ar safleoedd Worthenbury (Ffig 1) a Ceiriog (Ffig 2), dim ond yn y gwanwyn/dechrau'r haf (Mawrth i Fehefin) y mae'r TiauSR yn cael eu pysgota, ac yna dim ond rhwng y cyfnos a'r wawr - pan fydd staff yno. Mae'r defnydd o oleuadau rhybuddio ac arwyddion wedi'u goleuo - ar y glannau 50-200m i fyny'r afon ac ar y trapiau eu hunain, yn hysbysu defnyddwyr yr afon o'u presenoldeb.

 

Pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, mae'r ddau drap yn cael eu symud allan o'r prif lif ac yn agos at y lan chwith gan edrych i lawr yr afon (gweler Ffigurau). Mae hyn yn gadael y brif sianel yn rhydd o rwystrau ac eithrio ceblau angori, rhaffau a llinellau diogelwch ac mae'r rhain yn gorwedd naill ai ar neu o dan yr wyneb neu'n cael eu dal uwchlaw uchder y pen.

 

Yn Worthenbury, mae darn syth o afon tua 100m, gyda glannau clir, yn union i fyny'r afon o'r safle trapio ac felly mae'n rhoi golygfa dda i ddefnyddwyr yr afon. Ar Afon Ceiriog, mae'r TiauSR hefyd wedi'i lleoli mewn rhan syth o'r afon ond gyda glannau coediog iawn. Yn y ddau achos, mae arwyddion ar y lan yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o'r strwythurau hyn. Yn yr un modd, mae'r ddau leoliad yn cynnwys darnau bas i fyny'r afon lle gall canŵ-wyr ddod oddi ar eu cychod (gweler Ffig 1 a 2).

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Bregan Brown; Ffôn: 07971515699; e-bost: bregan.brown@naturalresourceswales.gov.uk

neu

Sara Sherratt; Ffôn: 07977945407; e-bost:Sara.Sherratt@naturalresourceswales.gov.uk


CONTACT THE MEDIA TEAM

If you have a story that would be of interest to the Paddle Cymru team please get in touch using the online contact form linked below or get in contact using one of our social feeds.

CONTACT

SIGN UP TO CEUFAD MAGAZINE

Ceufad is our quarterly magazine, covering everything that's important in Welsh paddlesport.

Click here to find out more.

News Item Enquiry

Share Post

1 May 2025
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi'r amserlen sydd ar ddod ar gyfer ein sesiynau Cymedroli Darparwyr Padlo'n fwy Diogel. Mae'r sesiynau hyn yn hanfodol i bob darparwr sy'n dymuno parhau i gyflwyno'r cwrs Padlo'n fwy Diogel. Mae ein cofnodion yn dangos eich bod wedi dod yn Ddarparwr Padlo'n fwy Diogel yn 2022, os hoffech barhau i gynnig y cwrs gwerthfawr hwn, bydd angen i chi fynychu Cymedroli yn 2025.
30 April 2025
We're thrilled to announce the upcoming schedule for our Paddle Safer Provider Moderation sessions. These sessions are essential for all providers who wish to continue delivering the Paddle Safer course. Our records indicate that you became a Paddle Safer Provider in 2022, if you would like to continue offering this valuable course, you will need to attend a Moderation in 2025.
29 April 2025
Yn dilyn dedfrydu perchennog busnes padlfyrddio i 10 mlynedd a 6 mis am ddynladdiad pedwar o bobl drwy esgeulustod difrifol, mae'n hanfodol ein bod yn atgoffa pawb o'r gwersi a ddysgwyd o'r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad trasig ac osgoadwy hwn a'r cyfrifoldebau sydd gennym ni i gyd wrth ddefnyddio ac arwain eraill yn ystod sesiynau padlo.
View More