Amddiffyn ein Mannau Glas - Gwirio, Glanhau, Sychu!
20 March 2025

HOME / NEWS / Current Post

Wrth i’r nosweithiau dynnu allan a’r tywydd wella, rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser ar y dŵr. 

Mae diogelu ein hamgylchedd yn flaenoriaeth, a gall gwreiddio arferion bach fel  CHECK CLEAN DRY wneud gwahaniaeth mawr i gadw ein dyfrffyrdd yn iach.


Gall Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) niweidio dyfrffyrdd a lledaenu'n hawdd trwy fyrddau, caiacau a rhwyfau. Mae glanhau a sychu'n gyflym ar ôl pob sesiwn yn helpu i atal hyn.

Eleni, rydym yn partneru â Bio Mate, cefnogwr Mynediad Clir Dŵr Clir a chydweithredwr allweddol gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i ddiogelu ein mannau glas. Fel rhan o'r fenter hon, bydd pob capten Aqua Paddle yn derbyn pecyn glanhau cludadwy Bio Mate i helpu i wreiddio arferion glanhau cyfrifol ar safleoedd digwyddiadau. Offeryn gwych ar gyfer padlwyr, mae’r pecyn glanhau cludadwy Bio Mate yn cynnwys brwsh gyda thap integredig, lliain sychu, sbwng, a bag gwrth-ddŵr. Mae'n ffitio ar botel 500ml safonol neu gellir ei ddefnyddio gyda phibell ddŵr neu chwistrellwr pwmp 8L Bio Mate - yn ddelfrydol ar gyfer glanhau trylwyr.


Cynnig Cyfyngedig BIO Mate i Aelodau Paddle Cymru!

Mae Bio Mate yn cynnig gostyngiad o 15% ar eu pecynnau glanhau cludadwy i aelodau Paddle Cymru. Cadwch lygad ar borth yr aelodau am y cod disgownt, sydd ar gael yn fuan - mewn pryd ar gyfer tymor padlo 2025!


Yma yn Paddle Cymru byddem wrth ein bodd yn clywed am sut yr ydych chi a'ch cyd-badlwyr yn cofleidio'r ddefod Gwirio-Glanhau-Sychu! Anfonwch ychydig o luniau atom yn ogystal ag ychydig eiriau amdano, a gallech gael sylw yn y cylchlythyr nesaf! Anfonwch yr holl luniau i Bonnie.ireland@paddlecymru.org.uk

CONTACT THE MEDIA TEAM

If you have a story that would be of interest to the Paddle Cymru team please get in touch using the online contact form linked below or get in contact using one of our social feeds.

CONTACT

SIGN UP TO CEUFAD MAGAZINE

Ceufad is our quarterly magazine, covering everything that's important in Welsh paddlesport.

Click here to find out more.

News Item Enquiry

Share Post

by Lydia Wilford 8 May 2025
There are some days you just don’t want to end and Sunday 4th May at Cardiff International White Water was definitely one of them.
1 May 2025
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi'r amserlen sydd ar ddod ar gyfer ein sesiynau Cymedroli Darparwyr Padlo'n fwy Diogel. Mae'r sesiynau hyn yn hanfodol i bob darparwr sy'n dymuno parhau i gyflwyno'r cwrs Padlo'n fwy Diogel. Mae ein cofnodion yn dangos eich bod wedi dod yn Ddarparwr Padlo'n fwy Diogel yn 2022, os hoffech barhau i gynnig y cwrs gwerthfawr hwn, bydd angen i chi fynychu Cymedroli yn 2025.
30 April 2025
We're thrilled to announce the upcoming schedule for our Paddle Safer Provider Moderation sessions. These sessions are essential for all providers who wish to continue delivering the Paddle Safer course. Our records indicate that you became a Paddle Safer Provider in 2022, if you would like to continue offering this valuable course, you will need to attend a Moderation in 2025.
View More